P-04-428
: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Geiriad y
ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd ar gefnffyrdd yng
Nghymru ac i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yn gofyn bod
goleuadau stryd lleol yn cael eu newid fel eu bod yn defnyddio ynni
amgen.
Gwybodaeth Ategol : Mae Llywodraeth Cymru’n honni ei bod yn
gweithio yn ôl Agenda 21, sef lleihau llygredd drwy
leihau’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio. Yn ystod y nos,
mae goleuadau stryd yn golygu bod yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio
yn cyrraedd uchafswm. Felly, credaf y dylai’r
Llywodraeth newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd yn y wlad. Er
enghraifft, mae ynni solar ac ynni gwynt yn cael eu defnyddio yn
barod ar gyfer rhai arwyddion stryd, a byddai newid yr holl
oleuadau stryd yn cynnig cyfleoedd gwaith eang a chynaliadwy i
filoedd. Byddai’r darparwyr trydan wedyn yn gallu
gostwng eu prisiau i’r defnyddwyr a’r awdurdodau
lleol..
Prif
ddeisebydd: Ethan
Gwyn
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16
Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 22